Wednesday, January 10, 2007

Yn Gymraeg...

Here it is again in Welsh...in which its central theory sounds more convincing, I like to think.

Fel ewyn ton a dyr ar draethell unig,
Fel cân y gwynt lle nid oes glust a glyw,
Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom-
Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

o’r gerdd Cofio gan Waldo Williams

Gan mai Cynefin ydi enw’r cwmni y bu i Mike Hotson a minnau ei sefydlu yn y flwyddyn 2000, mae ceisio egluro ystyr ‘cynefin’ i bobl ddi-Gymraeg wedi bod yn dasg i mi ers peth amser. Mae iddo, wrth gwrs, yr hen ystyr amaethyddol ynglŷn â defaid a thiriogaeth. Ond teimlaf fod y gair, yn nwylo ac ar dafod hudolus ein beirdd, wedi ei gyfoethogi i’r fath raddau na ellir ei gyfieithu’n syml i eiriau ieithoedd eraill. Yn arbennig felly’r ieithoedd hynny a ddatblygwyd o gwmpas y syniadaeth fodern, cwbl estron i ddiwylliannau brodorol, mai eiddo dyn ydi natur.

Fe es i drwy gyfnod o egluro ein bod ni’n teimlo poen hiraeth oherwydd cysylltiad corfforol rhyngom ni a bröydd ein mebyd - cysylltiad o atgofion synhwyraidd am leoliad a chyfnod ein plentyndod sy’n plethu’n rhaff, yn llinyn bogail, sy’n ein clymu ni i’r fam ddaear.

Erbyn hyn, wedi dilyn trywydd yr eglurhad i’r fath eithafion, mae’r argraff yr ydw i’n ei greu ar yr holwr diniwed yn un o ddyn sydd ychydig yn wallgof. Ond nid trigfan atgofion dwfn a phersonol yn unig yw cynefin. Mae o hefyd yn ymwneud â theimladau encilion yr ymwybod - bod y graig, y coed, y dŵr, y ddaear, yr awyr o’n gwmpas yn ein cofio ni ac yn llawenhau yn ein dychweliad atyn nhw.

Cefais ryw gyffyrddiad o hyn wrth i mi ddychwelyd i Gaerdroia am y trydydd tro, i baratoi Heuldro Gaeaf. Ond digon tymhestlog fu’r berthynas ers hynny. Bu’r gwynt a’r glaw’n diasbedain o’n cwmpas ac oni bai am y grŵp anhygoel o actorion a gwirfoddolwyr fu wrthi, mi fyddent wedi achosi tranc y prosiect gor-fentrus efallai, hwn. Roedd y syniad o greu perfformiad ganol gaeaf ar gopa bryn ym mherfeddion coedwig Gwydir yn hynod apelgar yng nghanol haul Mehefin, pan fuom ni yma’n perfformio Heuldro Haf - o leiaf mi fuasai’r piwiaid cythreulig yna wedi diflannu. Rhyw ddelwedd ramantus o dawel nos, clustog o eira ar y coed a’r wybren heb gwmwl i guddio Siôn Corn a’i geirw, oedd gen i!

Y gwirionedd oedd gwynt a glaw, llifogydd a mwd llithrig ac, wrth ysgrifennu hwn, yr un yw’r rhagolygon ar gyfer gweddill mis Rhagfyr. Ac felly fe hoffwn i dalu teyrnged i chi, oherwydd os ydych chi’n darllen hwn mi fyddwch wedi bod ar antur anghyfforddus Heuldro Gaeaf. Rydw i’n gobeithio’n arw bod y daith wedi datgelu trysor o ryw fath i chi. Mae llwyddiant ein perfformiadau’n crogi bob amser o linyn main tenau, y llinyn unigryw hwnnw y mae angen i bob aelod o’r gynulleidfa ei ddarganfod a’i ddefnyddio i gysylltu’r profiadau synhwyraidd y maen nhw’n dod ar eu traws wrth gerdded llwybr Caerdroia. Bwriad Heuldro Gaeaf yw dod â ni’n agosach at yr hyn a welwn ni ydi ysbryd y Nadolig.

Rydw i o’r farn, hen ffasiwn erbyn hyn, bod gan y Nadolig drysor i’w ddatguddio. Dyma adeg y flwyddyn pan fydd y teimlad o gynefin yn ymestyn y tu hwnt i gornel bach yr unigolyn i gynnwys ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’. Wrth i ni ddychwelyd unwaith eto i’r cynefin ehangach hwn, mae’r byd yn cofio amdanom ni ac yn teimlo llawenydd - ac mi fyddwn ninnau hefyd yn teimlo llawenydd yn sgil hynny wrth sylweddoli mor hael ydi’r byd yn ei hanfod. Dyna, rydw i’n tybio, yw tarddiad yr holl chwedlau caredigrwydd sy’n gysylltiedig â’r ŵyl, neu efallai'r chwedlau yw tarddiad y teimlad?

Iwan Brioc, Cyfarwyddwr Artistig Cynefin

0 Comments:

Post a Comment

<< Home